“Camgymeriad diniwed” oedd tebygrwydd arwydd siop goffi yng Ngheredigion gyda chadwyn fyd-eang Starbucks, yn ôl y perchennog.
Roedd siop Boulders Coffee Lounge, yn Borth, wedi cael gorchymun cyfreithiol drwy e-bost a llythyr i dynnu’r arwydd i lawr gan y cwmni.
Yn ôl y llythyr fe fyddai tebygrwydd y ddwy arwydd yn achosi “dryswch” i gwsmeriaid”.
“Doedd gen i ddim syniad,” meddai’r perchennog Derek Evans wrth Golwg 360.
“Camgymeriad diniwed oedd o, bod fy arwydd i ar gefndir gwyrdd a gyda llythrennau gwyn. Rydw i am eu hosgoi nhw tro nesaf.
“Dw i wedi cyfaddef ac wedi tynnu’r arwydd i lawr. Dw i hefyd wedi gadael i’w cyfreithwyr nhw wybod ac wedi tynnu llun a’i yrru o ar ôl tynnu’r arwydd i lawr – fel yr oedden nhw wedi gofyn i mi wneud.”
Ychwanegodd y byddai’n “troedio’n ofalus” wrth feddwl am arwydd newydd i gymryd ei le.
“Efallai wna i gael arwydd gwyn gyda llythrennau gwyrdd tro nesa!”
Starbucks
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Starbucks wrth Golwg360 eu bod nhw wedi gofyn i’r siop dynnu’r arwydd i lawr a’i newid i “wneud yn glir nad siop Starbucks” ydi hi.
“Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae ein logo ac ein henw wedi cynrychioli coffi a gwasanaeth gwych i filiynau o gwsmeriaid Starbucks, felly mae’n bwysig ein bod yn cymryd gofal er mwyn sicrhau nad yw’r logo yn cael ei gamddefnyddio yn achosi dryswch,” meddai llefarydd ar ran Starbucks.
“Fe gysylltodd cwsmer gyda ni’n ddiweddar yn dweud eu bod wedi mynd i mewn i Siop Goffi Boulders yn y Borth oherwydd eu bod nhw’n credu mai Starbucks oedd hi.
“Roedd y cwsmer wedi’i siomi ar ôl darganfod nad dyna oedd hi.
“Rydym ni wedi gofyn i’r siop goffi newid ei logo i’w gwneud yn glir nad yw’n siop Starbucks er mwyn osgoi sefyllfa o’r fath yn y dyfodol. “
Dywedodd y llefarydd hefyd nad oedd achosion fel hyn yn arbennig o gyffredin yng Nghymru.