Mae dau o chwaraewyr y Dreigiau’n wynebu cael eu gwahardd yn dilyn eu gêm yn erbyn Glasgow y penwythnos diwethaf.
Mae’r clo, Scott Morgan wedi cael ei gyhuddo o fwrw gwrthwynebwr, ac mae’r asgellwr, Aled Brew yn wynebu cyhuddiad o daclo’n beryglus.
Fe fydd panel disgyblu Undeb Rygbi Cymru yn gwrando ar y ddau achos yng Nghaerdydd heddiw ar ôl derbyn y cwyn gan y comisiynydd, Jeff Mark.
Chwaraewr newydd
Mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi bod canolwr Caerfaddon, Tom Cheeseman wedi ymuno gyda’r rhanbarth ar gytundeb benthyg tan ddiwedd y tymor.
Mae Cheeseman, sy’n enedigol o Abertawe wedi treulio chwe’ mlynedd gyda Chaerfaddon, ond ni chafodd nifer o gyfleoedd i chwarae dros y tim cyntaf.
“Rydw i wrth fy modd yn cael dychwelyd i Gymru, roeddwn i wedi chwarae yma am flynyddoedd cyn symud i Gaerfaddon. Mae’n wych bod y Dreigiau’n rhoi cyfle i mi ddod yn ôl,” meddai Cheeseman.
“Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i ychydig yn nerfus wrth ddychwelyd ar benwythnos mawr gyda gêm oddi cartref yn erbyn y Gleision!
“Mae’n waith caled dysgu cymaint mewn amser mor fyr, ond rydw i eisoes wedi cwblhau sesiwn ymarfer ac mae’r chwaraewyr wedi bod yn gefnogol.
“Mae’r hyfforddwyr wedi fy helpu ac rwy’n edrych ‘mlaen i wisgo crys y Dreigiau.”