Gallai toriadau yng nghyllid yr heddlu beryglu diogelwch un o borthladdoedd pwysicaf Prydain, yn ôl un Aelod Seneddol.
Mae porthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro, bellach yn chwarae rhan hanfodol wrth bweru Prydain, meddai’r Ceidwadwr Stephen Crabb.
Dywedodd fod angen i’r Gweinidog Heddluoedd ystyried diogelwch y porthladd cyn cyhoeddi unrhyw doriadau i Heddlu Dyfed-Powys.
Daw dros chwarter y petrol a’r disel sy’n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig drwy borthladd Aberdaugleddau.
Dros y blynyddoedd diweddaf y porthladd sydd wedi derbyn nwy hylifol naturiol o Qatar i Brydain.
Toriadau
Daeth yr alwad i warchod cyllideb Heddlu Dyfed-Powys gan Mr Crabb yn dilyn cyfarfod gyda Phrif Gwnstabl Dyfed-Powys, Ian Arundale.
Mae Mr Arundale eisioes wedi datgan nad yw toriadau unffurf i wasanaeth yr heddlu ar draws y DU yn mynd i weithio.
Dywedodd fod toriadau i gyllid Dyfed-Powys – sef y llu mwyaf ym Mhrydain – yn un o’r bygythiadau diogelwch mwya’ ers degawdau.
Pe bai Llywodraeth y glymblaid yn gweithredu ar eu bwriad, fe fyddai heddlu Dyfed-Powys yn gorfod dod o hyd i arbedion gwerth £34 miliwn rhwng nawr a 2014-15.
Mae Mr Crabb wedi galw am gyllid ychwanegol i ddiogelwch porthladd Aberdaugleddau yn y gorffennol.
Dywedodd ei fod o wedi ysgrifennu eto at y Gweinidog Heddlu, Nick Herbert, er mwyn pwysleisio hynny.