Daethpwyd o hyd i gorff dyn mewn bol siarc ar ôl iddo ddiflannu ar draeth lle saethwyd y ffilm Jaws: The Revenge, yn ôl heddlu yn y Bahamas.
Diflannodd Judson Newton, 43 oed, oedd yn hwylio oddi ar Jaws Beach, sydd wedi ei enwi ar ôl y ffilm, ar 29 Awst.
Dywedodd heddlu’r Bahamas eu bod nhw wedi gwneud prawf olion bysedd ond eu bod nhw’n dal i ddisgwyl am brawf DNA cyn cadarnhau’n swyddogol mai Judson Newton yw’r corff.
Dyw hi ddim yn amlwg a oedd o’n fyw pan gafodd o’i fwyta, medden nhw.
Roedd o’n mwynhau taith mewn cwch gyda ffrindiau ar Ynys New Providence pan ataliodd injan y cwch. Penderfynodd nofio yn ôl i’r lan ond wnaeth o ddim cyrraedd.
Ar 4 Medi cafodd siarc 12 troedfedd ei ddal gan bysgotwyr ac fe ddywedon nhw bod coes wedi disgyn allan o’i geg wrth iddyn nhw ei lusgo i mewn i’r cwch.
Cafodd y siarc ei dorri ar agor a daethpwyd o hyd i goes dde, dwy fraich a thorso y tu mewn iddo.
Dywedodd Samuel Woodside, 37, un o ffrindiau Judson Newton, ei fod o wedi synnu pan ddywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu bod ei gyfaill wedi boddi.
“Roedd o’n nofiwr cryf,” meddai Samuel Woodside. “Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd.”