Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwario £4.6 miliwn ar lifrau seremonïol ers 2004, datgelwyd heddiw.

Dywedodd yr AS Tim Farron o’r Democratiaid Rhyddfrydol bod gwario’r fath arian ar ddillad seremonïol tra bod milwyr yn Afghanistan yn mynd heb offer hanfodol yn “wallgo”.

Roedd y lifrau seremonïol yn cynnwys yr hetiau ‘bearskin’ uchel du a siacedi coch sy’n boblogaidd gyda thwristiaid i Lundain.

Rhyddhawyd y ffigyrau gan y gweinidog amddiffyn Peter Luff wrth ymateb i gwestiwn gan Tim Farron yn Senedd San Steffan.

“Yn anffodus mae’r ffigyrau yma’n nodweddiadol o’r gwario gwallgo oedd yn digwydd yn y Weinyddiaeth Amddiffyn dan reolaeth llywodraeth y Blaid Lafur,” meddai Tim Farron.

“Mae’n anodd cyfiawnhau gwario cymaint ar lifrau seremonïol tra bod ein milwyr dewr ni yn gorfod disgwyl am offer a allai achub bywydau.”