Mae Bont yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn Adran 2 Spar y Canolbarth wedi iddynt gael eu llorio yn Nhrefaldwyn dros y penwythnos.
Ar y llaw arall, mae Trefaldwyn yn dechrau rhoi stamp ar y gynghrair newydd gan ddangos pam mai nhw yw’r ffefrynnau cynnar.
Gêm drosodd cyn yr hanner
Gyda chymaint â chwech o chwaraewyr yn eisiau, roedd wastad yn mynd i fod yn anodd i’r ymwelwyr mewn oren.
Roedd y gêm drosodd erbyn yr hanner mewn gwirionedd, gyda Threfaldwyn yn arwain o 4-0. Achosodd asgellwr chwith y tîm cartref, Tony Meredith, bob math o broblemau gyda’i gyflymder ac fe’i wobrwywyd â dwy gôl yn yr hanner cyntaf. Gaz Bromley a Ross Harries sgoriodd y ddwy arall.
Adennill parch
Y gorau y gallai Bont obeithio amdano wedi’r hanner oedd adennill rhywfaint o hunan barch, ond dechreuodd pethau’n wael wrth i Drefaldwyn sgorio eu pumed diolch i Bromley wedi pum munud.
Fe ddaeth gôl gysur i’r ymwelwyr diolch i Jamie Evans a beniodd groesiad Owain Schiavone o’r chwith i’r rhwyd wedi 20 munud. Daeth rhai cyfleoedd eraill i Bont wrth i’r ymwelwyr eistedd nol ar eu goruchafiaeth, ond doedd dim siâp sgorio arnyn nhw ar beth oedd yn ddiwrnod gwael.
Roedd rheolwr Bont, Andre Marsh, yn siomedig â’r perfformiad a chanlyniad, “allwn ni ddim fforddio â cholli pump neu chwech o chwaraewyr ar y lefel yma” meddai, “yn enwedig pan fyddwn ni’n chwarae yn erbyn tîm o safon Trefaldwyn. Er hynny, roedd y perfformiad yn siomedig ac fe fuaswn i wedi disgwyl gwell. Mae’n rhaid i ni dderbyn y canlyniad a dysgu o’r profiad.”