Mae Tony Blair wedi derbyn gwobr anrhydeddus am ei waith hawliau dynol byd-eang a’i ymroddiad i “ddatrys gwrthdaro rhyngwladol”.
Rhoddwyd Medal Rhyddid 2010 i Tony Blair gan gyn arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, mewn seremoni yn Philadelphia.
Cafodd Tony Blair ei ddewis am ei waith wrth hybu goddefgarwch crefyddol, gwella trefn lywodraethol Affrica, sicrhau cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon a “gweithio tuag at heddwch yn y Dwyrain Canol”.
Mae Tony Blair ynghanol taith i hyrwyddo ei hunangofiant, A Journey, ac wedi wynebu protestiadau gan wrthwynebwyr Rhyfel Irac.
Doedd dim protestio yn y seremoni yn Philadelphia, oedd yn cynnwys teyrnged i Tony Blair gan Bono o’r Band U2, enillodd y wobr yn 2007.
Mae Steven Spielberg, cyn arlywydd De Affrica Nelson Mandela, a cyn arlywydd yr Unol Daleithiau wedi ennill y wobr yn y gorffennol.
Mae chwech o’r cyn enillwyr wedi mynd yn eu blaenau i ennill Gwobr Heddwch Nobel.
‘Rhyddid’
Dywedodd Bill Clinton, cadeirydd y Ganolfan Cyfansoddiad Genedlaethol sy’n dyfarnu’r wobr, fod Tony Blair yn ddyn “aruthrol” oedd wedi “byw bywyd sy’n haeddu’r wobr yma”.
“Mae ei Sefydliad Ffydd yn hyrwyddo crefydd fel arf pwerus er mwyn gwneud daioni a dod a phobol at ei gilydd,” meddai Bill Clinton.
Dywedodd Tony Blair fod rhyddid yn ganlyniad i “bobol gyffredin yn gwneud pethau anhygoel ynghanol digwyddiadau sy’n newid y byd”.
“Dyw rhyddid ddim yn dod drwy ddamwain. Mae’n rhaid ei ennill.”
Mae’r fedal sydd wedi ei wobrwyo ers 1989 ac mae’n dod gyda gwobr o $100,000. Fe fydd Tony Blair yn rhoi’r arian tuag at ei Sefydliad Ffydd a’i waith yn Affrica.