Fe gafodd y Cymro Tony Pulis ei ganmol am ei ddewrder neithiwr wrth i’w dîm Stoke City ennill yn y munudau ola’ yn erbyn Aston Villa.
Roedd rheolwr Stoke wedi rhuthro’n ôl i’r gêm ar ôl bod gartref yng Nghasnewydd ar ôl marwolaeth ei fam.
Fe gyrhaeddodd tua hanner amser, pan oedd ei dîm 0-1 ar ei hôl hi ac, yn ôl y rheolwr cynorthwyol, David Kemp, ef oedd wedi ysbrydoli Stoke City.
“Rheolwr y clwb pêl-droed yw’r prif ddyn ac os nad yw e yno, fe fydd yna effaith,” meddai, gan ganmol Tony Pulis am ddod yn ôl er gwaetha’i dristwch.
“Dyna pam ai fod wedi bod yn rheolwr gwych ar y clwb pêl-droed yma,” meddai wedyn.
Roedd y blaenwr Kenwynne Jones wedi sgorio yn ei gêm gartref gyntaf i Stoke ar ôl i Tony Pulis ei brynu am £8 miliwn.
Llun: Tony Pulis (Add 92 – CCA 3.0)