Mae disgwyl y bydd awdurdodau carchar yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu condemnio am eu rhan yn llofruddiaeth un o arweinwyr milwrol yr Unoliaethwyr yno.

Fe fydd canlyniadau ymchwiliad i farwolaeth Billy Wright yn cael eu cyhoeddi heddiw ac maen nhw’n debyg o awgrymu bod swyddogion carchar wedi helpu’r llofruddion neu fod y drefn ddiogelwch yn wan.

Fe gafodd Wright – a oedd yn gyfrifol am tuag 20 llofruddiaeth ei hun – ei saethu’n farw yng ngharchar y Maze ddeuddydd ar ôl y Nadolig yn 1997.

Roedd yn eistedd mewn fan yn aros i fynd i weld ei gariad, pan ymosododd tri charcharor arall arno – roedd y tri aelod o’r Irish National Liberation Army wedi cael gafael ar ynnau ac wedi taro ar ôl clywed enw Billy Wright tros y system Tannoy.

Y cefndir

Ar y pryd, roedd y Llywodraeth Lafur newydd wedi dechrau ar y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Gwener y Groglith ac fe allai’r ymosodiad ar Wright fod wedi drysu’r rheiny.

Yn ôl y tri llofrudd, roedden nhw wedi ‘dienyddio’ Billy Wright am drefnu ymosodiadau ar Gatholigion o’i gell yn y carchar.

Ef oedd un o arweinwyr y Loyalist Volunteer Force, un o’r mudiadau Unolaethol mwyaf ciaidd, ac roedd yn cael ei feio am ladd Catholigion diniwed.

Mae’r ymchwiliad wedi costio tua £30 miliwn.

Llun: Billy Wright (Gwifren PA)