Mae’r amser yn “aeddfed” ar gyfer heddwch rhwng Israel a’r Palesteiniaid, yn ôl llefarydd tramor yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton.
Mae hi ar ei ffordd i’r Aifft ar gyfer y cam diweddaraf yn y trafodaethau heddwch rhwng y ddwy ochr.
Wrth hedfan draw, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth newyddiadurwyr ei bod yn obeithiol am y canlyniadau.
Fe fydd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, ac Arlywydd y Palesteiniaid ar y Lan Orllewinol, Mahmoud Abbas, yn ymuno â hi yn nhref wyliau Sharm el-Sheikh.
Y nod – ateb dwy wladwriaeth
Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, sy’n noddi’r trafodaethau a gafodd eu trefnu mewn cyfarfod arall yn yr Unol Daleithiau bythefnos yn ôl – y trafodaethau mawr cyntaf ers rhai blynyddoedd.
Ond mae rhai sylwebwyr yn parhau’n feirniadol gan ddweud na fydd trafodaethau’n llwyddo heb gytundeb y mudiad milwrol Hamas sy’n rheoli tir y Palesteiniaid yn Gaza.
Nod y trafodaethau yn y pen draw yw sicrhau diogelwch gwladwriaeth Israel a chreu gwladwriaeth ar wahân i’r Palesteiniaid. Y bwriad yw cyfarfod yn gyson bob tua phythefnos i drafod.
Llun: Mahmoud Abbas a Benjaimin Netanyahu yn eu cyfarfod cyntaf (AP Photo)