Fe fydd yr arch-Brotestant, Ian Paisley, yn arwain protestiadau yn erbyn ymweliad y Pab â’r Alban.
Mae cyn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bwriadu teithio i Gaeredin gyda 60 o weinidogion eraill o Eglwys Bresbyteraidd Rydd Ulster, gan ddweud bod ymweliad y Pab yn “wrthun”.
Fe fyddan nhw’n mynd i eglwys lle’r oedd un o gewri eu henwad, John Knox, yn arfer pregethu gan ddangos baner i brotestio yn erbyn yr ymweliad sy’n dechrau ddydd Iau.
“Rwy’n fy ystyried fy hun yn rhywun sy’n barod i sefyll dros y bobol sydd wedi cael eu trin yn wael iawn iawn gan offeiriaid Rhufain,” meddai Ian Paisley wrth bapur y Scotsman.
Yn erbyn gwario arian trethdalwyr
Mae eraill o’r protestwyr yn dweud eu bod yn erbyn gwario arian cyhoeddus ar yr ymweliad â’r Alban a Lloegr.
Ond dyw cynrychiolwyr yr Eglwys Babyddol yn yr Alban ddim yn poeni gormod. Yn ôl y Cardinal Keith O’Brien, fe fyddai wedi bod yn syndod pe bai Ian Paisley wedi cadw draw.
“Pe na bai Ian Paisley yn dod, fydden i ddim yn ystyried bod yr ymweliad yn werth chweil,” meddai wrth y papur newydd.
Llun: Ian Paisley (CCA 2.0)