Mae dadlau wedi codi tros y ffordd y mae’r awdurdodau’n trin gyda’r achosion o glefyd y llengfilwyr.
Yn ô llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fe ddylen nhw fod yn rhoi mwy o wybodaeth am y bobol sy’n diodde’ o’r afiechyd – gan gynnwys lle y maen nhw’n byw a lle y maen nhw wedi cael eu trin.
Ond, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, does dim pwynt yn hynny gan nad oes modd dal clefyd y llengfilwyr trwy ei drosglwyddo o berson i berson.
Bellach, mae tri thŵr oeri dŵr mewn tri safle diwydiannol wedi gorfod cael eu cau a’u glanhau wrth i’r achosion o’r clefyd barhau ym Mlaenau’r Cymoedd.
Mae 19 o achosion wedi eu cadarnhau ac mae ymchwil yn parhau i weld a yw pedwar achos arall – gan gynnwys y ddau berson a fu farw – yn rhan o’r un clwstwr.
‘Angen cysuro’, meddai AC
Mae’r Ceidwadwr Andrew R T Davies wedi dweud wrth Radio Wales bod angen yr wybodaeth ychwanegol er mwyn cysuro pobol am yr hyn sy’n digwydd.
“Does dim drwg mewn rhoi gwybod ym mha drefi y mae pobol ac ym mha ysbytai,” meddai.
Ar y llaw arall, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, fyddai hynny’n gwneud dim ond peryglu preifatrwydd y cleifion heb unrhyw fudd i’r cyhoedd.
Roedd llefarydd yn pwysleisio bod cannoedd o filoedd o bobol yn teithio trwy ardal Blaenau’r Cymoedd, ond dim ond ‘llond llaw’ oedd wedi dal y clefyd.
Mae’n cael ei drosglwyddo mewn mân ddiferion dŵr sydd fel rheol yn dod o systemau awyru neu dyrau oeri dŵr.
Llun: Andrew R T Davies