Mae gwleidyddion yng Nghymru a’r Alban yn protestio yn erbyn bwriad y Llywodraeth yn Llundain i orfodi’r Cynulliad a’r Senedd yng Nghaeredin i symud eu hetholiadau.
Ddoe, fe gyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, ei fod yn ystyried cryfhau’r gallu i newid dyddiadau etholiadau yn seneddau’r gwledydd eraill – er mwyn osgoi gwrthdaro gydag Etholiad Cyffredinol.
Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn ceisio newid y drefn yn San Steffan i greu tymor sefydlog i bob Senedd. Gan mai pum mlynedd fyddai hwnnw – o’i gymharu â phedair blynedd pob Cynulliad – fe fydda’r etholiadau’n gwrthdaro bob 20 mlynedd.
Fe fyddai’r achos cynta’ o hynny’n digwydd ym mis Mai 2015 – ar hyn o bryd, fe fyddai’r ddau set o etholiadau’r un diwrnod. Ond mae Nick Clegg yn ceisio newid hynny gyda’r bwriad fod etholiadau’r Cynulliad yn cael eu symud, efallai o fis Mai i’r hydref.
Protestio
Yng Nghymru a’r Alban, mae’r pleidiau cenedlaethol a Llafur wedi protestio gan ddweud bod Llywodraeth Llundain yn torri’r “agenda o barch” sydd i fod rhyngddi a’r seneddau sydd wedi datganoli.
“Mae hyn yn amharchus iawn o’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai Ann McKechin, llefarydd Llafur ar Swyddfa’r Alban. “Mae’n gywilydd eu bod nhw’n gwthio hyn trwodd heb drafod gyda’r pleidiau eraill.”
Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad a Senedd yr Alban hawl i symud dyddiad eu hetholiadau o tua mis ond, er mwyn osgoi gwrthdaro gydag Etholiad Cyffredinol, efallai y byddai angen mwy na hynny, meddai Nick Clegg.
Fe allai deddf newydd roi’r hawl i San Steffan symud yr etholiadau hefyd.
Fe ddywedodd Nick Clegg y byddai’n ystyried yr angen am gryfhau’r ddeddf ac yn trafod hynny gyda Chaerdydd a Chaeredin.
• Fe allai’r Llywodraeth hefyd wynebu gwrthryfel tros ddyddiad refferendwm ar y drefn bleidleisio – mae disgwyl i nifer o Geidwadwyr uno gyda’r pleidiau eraill i rwystro cynnal hwnnw ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Llun: Nick Clegg yn y Senedd yn Llundain (Gwifren PA)