Mae Nick Clegg wedi annog ASau i gefnogi’r cynnig am dymhorau penodedig I’r Senedd er mwyn sicrhau nad yw dyddiad yr Etholiad Cyffredinol o dan reolaeth prif weinidog y dydd.
Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog fod y mesur am dymhorau penodedig yn rhoi diwedd ar hawl Prif Weinidog i ddiddymu’r Senedd “am fantais wleidyddol.”
Fe siaradodd Nick Clegg am y “difrod” sy’n gallu cael ei wneud pan mae Prif Weinidog yn “mwydro a phetruso dros ddyddiad etholiad a chadw’r wlad i ddyfalu.”
“Fe fu’n rhaid dioddef hynny yn 2007, ac roedd pob plaid yn paratoi ar gyfer yr ymgyrch, a oedd yn gwneud hi’n anodd i’r Senedd gweithredu’n iawn,” meddai Nick Clegg.
“Fydd yna ddim mwy o ddyfalu am y dyddiad, sy’n tynnu sylw gwleidyddion oddi ar redeg y wlad”
“Fe fydd pawb yn gwybod pa mor hir fydd y Senedd yn parhau gan ddod â llawer mwy o sefydlogrwydd i’r system wleidyddol.”
Llun: Nick Clegg (gwifren PA)