Roedd cannoedd o bobl yn bresennol i ddathlu bywyd y gwleidydd Syr Cyril Smith mewn gwasanaeth coffa yn Rochdale heddiw.

Bu farw Syr Cyril Smith a oedd yn AS ar Rochdale am ugain mlynedd yn 82 oed ar ddechrau’r mis.

Fe ddywedodd ffrind iddo, yr Arglwydd Alton, ei fod yn “weithredwr gwleidyddol ardderchog.”

“Roedd yn ddyn nodedig, dyn rhyfeddol, ffrind gwych ac fe fyddwn ni gyd yn gweld ei eisiau,” meddai’r Arglwydd Alton wrth y gynulleidfa yn Neuadd y Dref yn Rochdale.

Fe ddywedodd nai Syr Cyril Smith, Craig Smith bod y gwleidydd fel ail dad iddo ef a’i frodyr a chwiorydd.

“Roedd e yno pan oedd ei angen e fwyaf. Fe ddysgodd e ni i drin pobl fel bydden ni am gael ein trin gan eraill,” meddai Craig Smith.

“Rwy’n gwybod bydd fy nhad, Norman yn gweld ei eisiau’n fwy na neb. Roedden nhw’n wastad gyda’i gilydd.”

Roedd yna 400 o bobl yn neuadd y dref gyda channoedd arall tu allan yn y glaw yn gwrando ar yr uchelseinydd. Fe gafodd y gwasanaeth coffa ei ddilyn gan wasanaeth preifat i deulu a ffrindiau agos.

Llun: Rhai o’r galarwyr yn Rochdale heddiw (Gwifren PA)