Mae’r arweinydd Mwslimaidd sy’n arwain yr ymdrech i adeiladu mosg a chanolfan gymuned Islamaidd gerllaw safle cyflafan 9/11 yn Efrog Newydd wedi dweud ei fod yn ystyried gwahanol opsiynau er mwyn ceisio canfod ateb i’r dadlau am y cynllun.

Dyw’r Imam Feisal Abdul Rauf ddim wedi cadarnhau os yw’n ystyried symud y safle arfaethedig o’r man sydd ddau floc i ffwrdd o’r lle y cwympodd dau dwr canolfan fasnach y byd yn Efrog Newydd ar 11 Medi, 2001.

Ond mae wedi dweud bod y safle, er yn “ddadleuol”, yn “bwysig”.

“Mae angen llwyfan arnom ni ble mae llais Mwslemiaid cymedrol yn cael eu hybu,” meddai

Dywedodd bod hyn yn werth y dadlau, gan y byddai’r safle yn fan i bob ffydd ddod at ei gilydd mewn parch.

Dadlau

Mae’r cynllun wedi creu dadlau mawr yn yr Unol Daleithiau. Dyw’r gwrthwynebwyr ddim eisiau gweld sefydliad Islamaidd gerllaw’r safle lle cafodd bron 3,000 o bobol eu lladd ar ôl i Fwslimiaid eithafol hedfan dwy awyren mewn i’r adeiladau.

Ac roedd gwrthdaro wedi digwydd rhwng ymgyrchwyr o’r ddwy ochor i’r ddadl ddydd Sadwrn, naw mlynedd i’r diwrnod ers yr ymosodiadau.

Yn ogystal, roedd gweinidog Cristnogol – Terry Jones, 58, o Florida – wedi bygwth yn gyhoeddus y byddai’n llosgi copïau o’r Coran mewn gwrthwynebiad i’r cynllun.

‘Ceisio ein gwahanu’

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi rhybuddio yn erbyn ymdrechion y terfysgwyr i greu gwrthdaro rhwng pobl o wahanol grefyddau.

“Maen nhw’n dymuno’n gwahanu ni, ond fyddwn ni ddim yn ildio i’w casineb a’u rhagfarn,” meddai.

Llun: Ground Zero, safle canolfan fasnach y byd lle mae gwaith adeiladu ar hyn o bryd (AP Photo)