Mae’r wraig sy’n cael ei chyhuddo o ladd ei mab awtistig wedi gwadu iddi ei lofruddio.

Ymddangosodd Yvonne Freaney, o Salop Street, Penarth mewn gwrandawiad pledio yn Llys y Goron Caerdydd heddiw. Roedd tair o nyrsys gyda hi wrth iddi sefyll i wadu’r cyhuddiad.

Roedd hi wedi cael ei harestio ar ôl iddi gael ei darganfod gyda chorff ei mab 11 oed Glen yng ngwesty’r Sky Plaza ger maes awyr Caerdydd.

Rhoddodd y barnwr Nicholas Cooke QC orchymyn iddi gael ei chadw ar fechnïaeth yng nglinic Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ragor o asesiadau seiciatryddol.

Llun: Glen Freaney (Heddlu De Cymru)