Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Christine Glossop, wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Badger Trust yn mynegi pryderon ynghylch y ffordd y mae’r Ymddiriedolaeth yn defnyddio ystadegau cenedlaethol ar TB yn eu hymgyrchoedd.
Er eu bod yn croesawu’r gostyngiad yn yr ystadegau misol TB, mae’r tueddiad hanesyddol yn “parhau i gynyddu,” meddai.
Mae honiad y Badger Trust bod y gostyngiad yn y niferoedd “yn unol â’r ystadegau hirdymor – sy’n dangos tuedd cynyddol ar i lawr o tua saith y cant dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, nid yn unig yng Nghymru, ond ym Mhrydain Fawr hefyd” yn anwiredd, medd Christine Glossop.
“Er ein bod yn croesawu unrhyw ostyngiad yn yr ystadegau ynghylch TB, mae hi’n rhy gynnar i awgrymu ein bod wedi cyrraedd trobwynt ar sail y data sydd ar gael i ni,” meddai Christine Glossop yn ei llythyr at y Badger Trust.
‘Gofalus’
“Mae’n rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio a dehongli ystadegau ac mae’n rhaid i’r ystadegau ar TB gael eu dadansoddi dros gyfnod o amser fel bod modd arsylwi ar unrhyw duedd.
“Mae TB yn epidemig hirdymor ac yn hanesyddol, mae’r ffigurau’n awgrymu bod y duedd yn cynyddu. Rydym wedi gweld gostyngiadau tymor byr o’r blaen – er enghraifft, yn 2004 a 2006.“
Mae’n mynd ymlaen i ddweud ei bod yn llawer rhy gynnar i ddweud os yw’r rheolau llymach ar symud gwartheg a’r mwy o brofion – yn gwneud gwahaniaeth.
Yn ei llythyr, roedd gan y Prif Swyddog Milfeddygol siartiau o nifer yr anifeiliaid a laddwyd a nifer yr achosion newydd o’r clefyd a gofnodwyd ym mhob chwarter ar gyfer Cymru a Phrydain rhwng 2007 a 2010, ystadegau a gafodd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.