Mae’r Canghellor, George Osbourne wedi gwadu honiadau fod anghytuno rhwng y Trysorlys a’r Adran dros Waith a Phensiynau ynglŷn â chynlluniau dadleuol i dorri budd-daliadau.
Fe fu’n rhaid i George Osbourne ateb y cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl iddo ddatgelu’r wythnos diwethaf y byddai £4bn yn cael ei gymryd o’r cyllid am fudd-daliadau ar ben y £11bn o doriadau a gafodd eu gwneud yn ystod Cyllideb mis Mehefin.
Fe wrthododd y Canghellor drafod y ffigurau yn ei ddatganiad byr i Aelodau Seneddol, ond fe ddywedodd bod angen diwygio’r system bresennol ar ôl i gostau budd-daliadau codi 45% dros y ddeng mlynedd diwethaf.
“Dyw’r system bresennol ddim yn gwarchod y rhai hynny sy’n wirioneddol methu gweithio nac yn helpu pobl sy’n chwilio am swyddi newydd yn gyflym,” meddai George Osbourne.
Fe ddywedodd Bob Russell, AS y Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd wedi gofyn y cwestiwn i’r canghellor, fod rhoi’r bai am sefyllfa economaidd y wlad ar dwyllwyr budd-daliadau yn “anfoesol.”
Fe ychwanegodd Bob Russell bod yr anghytuno rhwng y Trysorlys a’r Adran dros Waith a Phensiynau yn “anaeddfed.”
Ond fe ddywedodd George Osbourne fod y berthynas rhwng yr adrannau’n “un gref.”
Yn ôl y Canghellor, mae yna bum miliwn o bobl yn derbyn budd-daliadau diweithdra gyda dros hanner y rhain wedi bod yn y sefyllfa honno ers o leia’ bum mlynedd.