Mae achubwyr wedi gorfod rhoi’r gorau am y tro i dyllu un o’r twneli sy’n ceisio cyrraedd y 33 mwynwr sydd yn gaeth o dan y ddaear yn Chile.
Ond mae’r awdurdodau yn mynnu nad yw hyn ddim yn mynd i lesteirio’r ymdrech achub yn ormodol, gan eu bod wedi ystyried digwyddiad o’r fath cyn dechrau’r gwaith.
Roedd yr ebill ar gyfer y tyllwr wedi torri ar ôl taro trawst metel oedd yn cynnal siafft, 900 troedfedd o dan y ddaear.
Os na fyddan nhw’n gallu tynnu’r holl ddarnau o’r ebill sydd wedi torri allan o’r twll, bydd yn rhaid iddyn nhw ailddechrau twnnel arall.
Ond ddylai hyn ddim effeithio ar y cyfnod o amser y bydd hi’n cymryd i gyrraedd y mwynwyr, a dyna pam eu bod wedi cychwyn ar dair twnel, meddai’r awdurdodau.
Mae’r mwynwyr wedi bod yn sownd 2,200 troedfedd o dan fwynfa aur a chopr San Jose yng ngogledd Chile ers 5 Awst.
Roedd gweithwyr achub wedi llwyddo i gysylltu â nhw ar 22 Awst, ac maen nhw wedi cael gwybod y gallent fod yn sownd o dan y ddaear am bedwar mis arall.
Maen nhw’n derbyn bwyd a diod a negeseuon drwy dyllau cul sydd yn eu cyrraedd o’r wyneb.
Llun: Rhai o’r mwynwyr yn gaeth yn eu siambr o dan ddaear. (AP Photo/Television Nacional de Chile)