Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Brian Flynn wedi dweud y gallai droi at rai o chwaraewyr profiadol Cymru, gan gynnwys Ryan Giggs i ddychwelyd i’r garfan ar gyfer y gemau rhagbrofol.
Fe gafodd hyfforddwr tîm dan 21 Cymru ei gadarnhau fel hyfforddwr prif dîm Cymru heddiw ar gyfer gemau rhagbrofol mis Hydref yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.
Yn dilyn ei benodiad, fe ddywedodd Flynn ei fod yn awyddus i sicrhau’r swydd yn barhaol gydag enwau megis Chris Coleman, Sven-Goran Eriksson a Martin O’Neill hefyd yn cael eu crybwyll fel olynwyr hir dymor i John Toshack.
Ond yn y cyfamser mae Flynn am sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn ei ddwy gêm wrth y llyw, ac fe allai ofyn i rai o’r chwaraewyr hynny sydd wedi ymddeol i chwarae yn y crys coch unwaith eto.
Mae chwaraewyr megis Giggs, Jason Koumas, Carl Fletcher a Simon Davies wedi ymddeol yn ystod cyfnod Toshack. Yn ogystal, mae chwaraewyr fel Danny Collins, Freddy Eastwood, Ben Thatcher, a Robbie Savage wedi cael ei hanwybyddu gan Toshack oherwydd anghytundeb rhyngddynt.
‘Drws wastad ar agor’
Ond gyda Flynn yn rheoli, fe allai rhai o’r chwaraewyr yma ail-danio eu gyrfaoedd rhyngwladol.
“Mae fy ffôn wastad ymlaen, ac mae’r drws wastad ar agor. Dyw oedran ddim yn fy mhoeni, boed yn ifanc neu’n hen,” meddai Flynn.
“Rwy’n cofio pan oeddwn gyda Wrecsam ac roedden ni’n ail yn yr adran gyda deg gêm yn weddill. Roedd angen rhywbeth arbennig arnom ac fe arwyddais Jimmy Chase o Halifax Town a oedd yn 38 oed.
“Roedd ganddo brofiad mawr ers ei ddyddiau gyda Lerpwl. Fe ymunodd ac fe chwaraeodd yn dda i ni a’n helpu i gyrraedd y nod. Dyna un o’r trosglwyddiadau gorau dw i erioed wedi eu gwneud.”
‘Rhaid gwireddu potensial’
Mae Brian Flynn yn credu bod yna potensial enfawr o fewn carfan Cymru. Ond bod rhaid i’r chwaraewyr sylweddoli hynny.
“Mae’n rhaid i ni gael nhw i berfformio a sicrhau’r canlyniadau iawn”
Fe ddywedodd hyfforddwr dros dro Cymru ei fod yn credu y gallai Cymru sicrhau’r pwyntiau llawn cyn wynebu Lloegr mis Mawrth nesaf.
“Mae’n rhaid i ni gael momentwm yn y ddwy gêm nesaf. Maen nhw’n ddwy gêm lle gallwn ni godi’r ysbryd, ac rwy’n gwybod y gallwn ni ennill.”