Mae’r Eglwys Babyddol yng Ngwlad Belg wedi addo y byddan nhw’n cynorthwyo pobol sy’n honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol gan glerigwyr.

Daw’r addewid ar ôl i adroddiad annibynnol restru honiadau 507 o dystion ynglŷn â chamdriniaeth o’r fath dros gyfnod o ddegawdau.

Dywedodd yr Archesgob Andre-Mutien Leonard mewn cynhadledd bod yr eglwys am sefydlu canolfan arbennig ar gyfer dioddefwyr, a ddylai fod yn barod erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd hefyd bod yr eglwys “eisiau dysgu gwersi,” a’i fod yn disgwyl cynlluniau i erlyn y sawl sy’n eu cael yn euog o gamdriniaeth.

Yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn cynnwys honiadau bod plant ifanc wedi cael eu cam-drin dros gyfnod o flynyddoedd, ac roedd aelodau teuluoedd 13 o bobol a oedd wedi cyflawni hunan-laddiad wedi honni bod eu marwolaeth yn gysylltiedig â chamdriniaeth o’r fath.

Dywedodd chwe thyst arall eu bod wedi ceisio lladd eu hunain.

Daw’r adroddiad ar ôl i Esgob dinas Bruges, Roger Vangheluwe, gyfaddef ym mis Ebrill ei fod wedi cam-drin plentyn yn rhywiol flynyddoedd yn ôl.

Llun: Archesgob Gwlad Belg, Andre-Joseph Leonard, mewn cynhadledd i’r wasg ym Mrwsel heddiw (AP Photo/Yves Logghe)