Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young wedi dweud ei fod yn siomedig gyda’r ffordd gollodd ei dîm yn erbyn Leinster yn Nulyn dros y penwythnos.
Roedd y Gleision 20-6 ar ei hôl hi ar hanner amser yn dilyn ceisiau gan Shane Jennings ac Isa Nacewa. Fe ychwanegodd Nacewa ddwy gic gosb hefyd i ymestyn mantais y Gwyddelod.
Ond fe frwydrodd yr ymwelwyr yn ôl mewn i’r gêm yn dilyn ceisiau gan Bradley Davies a Richie Rees. Fe aeth y Gleision 23-20 ar y blaen ar ôl i’r maswr, Dan Parks lwyddo gyda chic gosb.
Er gwaethaf ymdrechion y rhanbarth Cymreig, Leinster gafodd y gair olaf gyda Fergus McFadden ac Ian Madigan yn croesi’r llinell gais i gipio’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Ymateb Dai Young
“Roedden ni’n gwybod ar hanner amser y gallen ni achosi problemau iddyn nhw trwy gadw meddiant ar y bêl, ennill tir a chreu llwyfan i’r chwarae,” meddai Dai Young.
“Roedd y chwaraewyr wedi gwneud hynny ac roedd yn siomedig iawn colli ar ôl mynd ar y blaen.
“Fe fydd rhaid i ni edrych eto ar ein hamddiffyn oherwydd fe sgoriodd Leinster eu cais olaf yn rhy hawdd.”
“Fe gafwyd amser anodd yn y sgrym gyda dau brop ifanc, Tom Davies a Scott Andrews yn chwarae – ond mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu.
“Ond fe fyddan nhw’n gwella gyda phrofiad. Fydden ni ddim yn siarad amdanyn nhw pe baen ni wedi ennill.”