Mae Prif Weinidog Twrci wedi dweud bod y wlad gam yn nes tuag at ddemocratiaeth lawn ar ôl i bleidleiswyr benderfynu o blaid caniatáu rhai newidiadau i gyfansoddiad y wlad dros y Sul.

Bydd Recep Tayyip Erdogan yn gobeithio y bydd y canlyniad yn symud Twrci gam yn nes tuag at gael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae’r canlyniad wedi rhoi gobaith i’w blaid, yr AKP, y byddant yn gallu cadw eu gafael ar rym am drydydd tymor wedi etholiad cyffredinol 2011.

Dyw’r canlyniad ddim wedi cael ei gyhoeddi’n swyddogol eto, ond mae adroddiadau o’r wlad yn dweud bod y bleidlais o blaid yn 58% – roedd bron 80% o bleidleiswyr wedi pleidleisio.

26 newid

Gobaith y llywodraeth yw y bydd y 26 newid yn ffrwyno grym y fyddin yn y wlad ond mae’r gwrthbleidiau yn ofni y gallai’r newidiadau beryglu egwyddorion seciwlar y cyfansoddiad.

Cafodd y cyfansoddiad ei sefydlu yn 1980, pan gymrodd y fyddin rym oddi wrth y llywodraeth am gyfnod – mae’r fyddin wedi gwneud hyn dair gwaith ers 1960.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn golygu y bydd y fyddin o hyn allan yn fwy atebol i lysoedd cyffredin, ac yn cael gwared â breintiau sy’n gwarchod arweinwyr milwrol 1980 rhag cael eu herlyn.

Ond mae gwrthwynebwyr yn ofni bod y AKP – sydd â gwreiddiau Islamaidd – yn bwriadu amharu ar draddodiad seciwlar y cyfansoddiad, a bod y newid i roi mwy o rym i’r senedd wrth ddewis barnwyr yn bygwth annibyniaeth y llysoedd.