Fe fydd araith y Frenhines yn cael ei symud o’i dyddiad hydrefol traddodiadol i’r gwanwyn blwyddyn nesaf, fel rhan o newidiadau’r llywodraeth tuag at seneddau pum mlynedd.
Fel rhan o gynigion sy’n cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin yn hwyrach heddiw, fe fydd pob senedd pum mlynedd yn cynnwys pum sesiwn 12 mis fydd yn rhedeg o un gwanwyn i’r llall.
Wrth gyhoeddi’r newidiadau heddiw, fe ddywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Syr George Young, y bydd araith nesaf y Frenhines yn cael ei gynnal adeg y Pasg yn 2012 – yn agos i ddwy flynedd ar ôl y seremoni i agor y Senedd bresennol ar 25 Mai.
Yn ôl swyddogion fe gafodd ei gytuno gyda Phalas Buckingham i oedi’r araith “er mwyn sicrhau trawsnewidiad llyfn.”
Mae’r araith sy’n cael ei lunio gan weinidogion, ond yn cael ei thraddodi gan y Frenhines yn gosod agenda deddfwriaethol Llywodraeth San Steffan.
Yn ôl adroddiadau fe gafodd rhaglen fawr o waith ei osod ym mis Mai, a does dim peryg y bydd y gwaith hynny wedi dod i ben cyn ddiwedd y bwlch o ddwy flynedd cyn yr araith nesaf.
‘Camddefnyddio grym’
Mae’r blaid Lafur, fodd bynnag, wedi beirniadu’r penderfyniad, gan gyhuddo’r llywodraeth o gamddefnyddio grym ac o sarhau’r senedd.
Meddai cysgod arweinydd Ty’r Cyffredin, Rosie Winterton: “Mae oblygiadau cyfansoddiadol sylweddol i’r penderfyniad yma ac mae’n gamddefnydd o rym y llywodraeth.
“Nid oes sesiwn seneddol ers y rhyfel wedi parhau am ddwy flynedd – yr uchafswm oedd 18 mis, ar ddechrau senedd lle’r oedd yr etholiad wedi digwydd yn y gwanwyn.
“Mae’r ffordd y gwnaed y cyhoeddiad, heb unrhyw ymgynghoriad a phleidiau eraill na barn Ty’r Cyffredin, yn sarhad ar y senedd.
“Does dim unrhyw fath o gyfiawnhad dros hyn. Mae wedi cael ei wneud yn unig er mwyn hwyluso deddfwriaeth ddadleuol.”