Mae tîm pêl-droed dan 19 merched Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth ysgubol mewn gêm ragbrofol yn erbyn eu cymheiriaid o Georgia gan ennill 21-0.
Mae’r Cymry yn chwarae tair gêm ragbrofol yn Slofenia dros yr wythnos nesaf, ac maen nhw wedi cael y dechrau perffaith yn dilyn y fuddugoliaeth ardderchog yma.
Roedd merched Cymru 3-0 o fewn deng munud gyda goliau gan Megan Wynne, Sharla Passariello ac Emily Brown.
Roedd y sgôr yn 6-0 ar yr egwyl yn dilyn goliau pellach gan Brown, Hannah Keryakoplis a’r capten Jasmin Dutton.
Ail hanner
Roedd y goliau’n parhau i lifo yn yr ail hanner gyda Josie Green yn sgorio tair, Nia Jones yn ychwanegu dwy yn ogystal â’r eilydd Zoe Atkins yn ychwanegu ei henw at y rhestr.
Erbyn diwedd y gêm roedd Brown wedi sgorio pum gôl a Keryakoplis yn sgorio pedair.
Roedd Megan Wynne a Dutton wedi sgorio eto ac fe fethodd y capten ag ychwanegu gôl
arall ar ôl i olwr Georgia arbed ei chic o’r smotyn.
Fe fydd merched Cymru yn chwarae Slofenia prynhawn yma yn eu hail gêm ragbrofol.