Mae undebau llafur wedi rhybuddio’r llywodraeth i fod yn barod am streiciau dros y misoedd nesaf yn erbyn toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Cytunodd cyngres y TUC ym Manceinion y bore yma i drefnu ymgyrchoedd a gweithredu diwydiannol ar y cyd yn erbyn y llywodraeth.

Mae’r undebau’n cyhuddo’r llywodraeth o fod yn gwbl ddi-hid ynghylch effeithiau’r toriadau, sydd eisoes, yn ôl yr undebau, wedi arwain at golli 200,000 o swyddi.

Dywedodd Dave Prentis, ysgrifennydd cyffredinol Unsain, mai celwydd yw dweud na all Prydain fforddio gwasanaethau cyhoeddus teilwng, gan ddadlau bod y llywodraeth yn gwneud toriadau oherwydd ei fod yn awyddus i hyrwyddo preifateiddio.

“Os oes arian ar gael i achub banciau a thaliadau bonws, os oes arian ar gyfer rhyfel a Trident, mae arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.

Cafodd Bob Crow, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth, sydd wedi galw am anufudd-dod sifil i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, gymeradwyaeth frwd pan ddywedodd: “Ein dewis yw gorwedd i lawr, neu sefyll i fyny ac ymladd.”

Llun: Rhai o gynrychiolwyr yr undebau’n cefnogi cynnig yng nghyngres y TUC y bore yma (Gwifren PA)