Parhau y mae’r chwilio am darddiad yr achosion o glefyd y llengfilwyr wrth i ragor o dyrau oeri dŵr gael eu cau ym Mlaenau’r Cymoedd.
Yn sgil cyngor gan dîm rheoli’r haint, mae cwmni arall yng Nghwm Rhymni wedi cau twr oeri ac yn disgwyl am ganllawiau arbenigol ar lanhau a diheintio cyn ailddechrau.
Mae hyn yn dilyn cwmni arall o’r ardal a gytunodd yn wirfoddol i gymryd rhan yn y broses – er ei fod, yn ôl yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch, yn cadw at y côd ymddygiad ynglŷn ag offer o’r fath.
Wrth archwilio pob tŵr oeri dŵr yn yr ardal, roedd swyddogion wedi cadarnhau y gallai’r bacteria sy’n achosi’r clefyd fod wedi byw ynddo.
Glanhau
Ond maen nhw’n pwysleisio nad oes unrhyw sicrwydd mai dyna yw ffynhonnell yr 19 o achosion o’r clefyd yn yr ardal. Mae’r un peth yn wir am dŵr oeri a gafodd ei gau a’i lanhau yn orfodol yn ardal Dowlais, Merthyr.
Mae’r gwaith ar hwnnw bellach wedi ei gwblhau ac mae’r cwmni’n gallu ail ddechrau gweithredu.
Roedd tri chwmni arall wedi cael gorchymyn i wella’u systemau ac fe fu swyddogion yn ymweld â thri thŵr arall oedd heb eu cofrestru gyda’r awdurdodau.
Yr ymchwiliad
Yn ogystal â’r 19 achos, mae ymchwiliadau’n parhau ynglŷn â phedwar arall a allai fod yn gysylltiedig, a’r rheiny’n cynnwys y ddau berson a fu farw.
Erbyn hyn mae 100 o swyddogion yn ymchwilio i darddiad yr achos ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n pwysleisio nad oes eisiau i neb newid eu hymddygiad.
Maen nhw wedi archwilio cyfanswm o ddeg tŵr oeri yn ardaloedd Cwm Rhymni, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.
Llun: Ardal ddiwydiannol ym Mlaenau’r Cymoedd