Ifan Morgan Jones sy’n dweud bod yr eithafwyr ar bob ochor yn cael gormod o sylw…
Mae’n anhygoel faint o sylw mae’r gweinidog Terry Jones o Florida wedi llwyddo i’w ddenu gan y wasg dros yr wythnos diwethaf.
I’r rheini sydd wedi llwyddo i osgoi’r stori, roedd y gweinidog wedi bygwth llosgi copïau o’r Coran ar 9/11 er mwyn protestio yn erbyn crefydd “dieflig” Islam.
Roedd hynny yn ei dro wedi cynddeiriogi Mwslemiaid eithafol, oedd wedi llosgi eu siâr o fflagiau’r Unol Daleithiau a dechrau reiat yn Afghanistan.
Mae’n debyg bod y cyfan wedi dechrau gydag un neges ar Twitter gan y gweinidog, oedd yn bygwth llosgi’r Coran, ac fe gafodd ei gyfweld yn fuan wedyn gan CNN a ledaenodd y stori yn fyd eang.
Yn ôl adroddiadau dim ond cynulleidfa o tua 50 o bobol sydd gan Terry Jones bob dydd Sul felly dyw hi ddim fel pe bai o hyd yn oed yn arweinydd crefyddol o bwys.
Mae’n amlwg nad ydi o’n cynrychioli barn nifer o Americanwyr chwaith. Mae hyd yn oed Sarah Palin wedi dweud nad ydi hi’n cefnogi ei amcan.
Ond y neges sy’n deillio o’r cyfan unwaith eto yw bod Cristnogion yr Unol Daleithiau a Mwslemiaid y Dwyrain Canol yr un mor eithafol â’i gilydd.
Y gwirionedd yw bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn bobol digon synhwyrol sydd heb unrhyw awydd i losgi llyfrau, fflagiau na dim arall.
Mae’r eithafwyr ar y ddwy ochor yn cael lot gormod o sylw a hynny’n rhoi’r awgrym fod yna hollt llawer mwy rhwng diwylliant y Gorllewin a’r Dwyrain Canol nag sydd yna mewn gwirionedd.
Y tristwch mawr yw y bydd rhai Mwslemiaid yn defnyddio bygythiad Terry Jones er mwyn cefnogi eu rhagfarn eu hunain yn erbyn yr Unol Daleithiau a rhai o bobol y wlad honno yn gweld y reiats yn Afghanistan ac yn teimlo’r un fath.