Mae ymchwiliadau’n parhau i achos trychineb ar lyn yng ngorllewin Llundain ddoe, pryd y cafodd merch 11 oed ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gwch modur.
Cafodd parafeddygon a’r heddlu eu galw i’r Princes Sports Club – parc hamdden anferth gyda phump o lynnoedd – tua 5 o’r gloch brynhawn ddoe.
Cafodd Mari-Simon Cronje ei rhuthro i ysbyty Gorllewin Middlesex, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae Heddlu Llundain a swyddogion o gangen damweiniau morwrol yr Adran Drafnidiaeth yn ymchwilio i’r digwyddiad.
“Ar hyn o bryd, credwn fod yr eneth ar ‘gwch banana’ yn cael ei dynnu gan gwch modur pan syrthiodd hi i’r dŵr, ac mae’n hymchwiliadau’n parhau i amgylchiadau llawn y digwyddiad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain.
Mae disgwyl y bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yfory.
Llun: Mari-Simon Cronje (Heddlu Llundain/Gwifren PA)