Mae Prif Weindiog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi datgan na fydd y cyfyngiadau presennol ar godi tai ar lan orllewinol yr Iorddonen yn parhau.

Fe fydd moratoriwm 10 mis ar ddatblygiadau tai newydd i Iddewon ar y lan orllewinol yn dod i ben ddiwedd y mis, ac mae’n asgwrn cynnen allweddol mewn trafodaethau heddwch rhwng Israel a Phalestiniaid.

Ar yr un pryd, dywedodd wrth Tony Blair, sy’n gweithredu fel math o lysgennad heddwch yn y dwyrain canol, y byddai rhywfaint o gyfyngiadau ar adeiladu.

“Fydd Israel ddim yn adeiladu degau o filoedd o dai, ond fyddwn ni ddim yn cadw bywydau’r trigolion yn eu hunfan,” meddai.

“Mae ar y Palestiniaid eisiau gwaharddiad llwyr ar adeiladu – ond fydd hyn ddim yn digwydd.”

Llun: Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu (o wefan Wikipedia)