Cafodd teulu o chwech ddihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn y Ffôr ger Pwllheli yn ystod oriau mân y bore.

Fe fu’n rhaid i’w cymdogion hefyd, teulu o bedwar, adael eu cartref o ganlyniad i’r digwyddiad.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fe allai’r ddau deulu fod wedi cael eu lladd oni bai i larwm mwg eu deffro mewn pryd.

Cafodd tair injan dân eu gyrru i’r tŷ lle cychwynnodd y tân, ac roedd yn wenfflam erbyn iddyn nhw gyrraedd, ond llwyddodd diffoddwyr i rwystro’r tân rhag lledaenu i’r tŷ nesaf.

Aed â’r chwe aelod o’r teulu – mam 45 oed, ei mab hynaf 22 oed, ei merch hynaf 17 oed a’i chariad, a’i merch a’i mab ieuengaf 9 a 5 oed i Ysbyty Gwynedd am driniaeth ar ôl anadlu mwg.

Meddai Dave Evans, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r ddau deulu’n lwcus i fod yn fyw. Allwn ni ddim gorbwysleisio’r graddau y mae larymau mwg yn gallu achub bywydau, a phwysigrwydd mynd allan, aros allan a deialu 999 os ydych chi’n dioddef tân.

“Yn y digwyddiad yma, roedd larymau mwg wedi defffo aelodau o’r ddau deulu a oedd wedi gallu sicrhau fod pawb yn dianc allan. Oni bai am hyn fe allai’r digwyddiad fod wedi arwain at sawl marwolaeth.”