Ar drothwy cyngres flynyddol yr undebau llafur ym Manceinion, mae arweinwyr undebau’n rhybuddio y bydd toriadau’r llywodraeth mewn gwario cyhoeddus yn arwain at streiciau ac ymgyrchoedd anufudd-dod sifil.

Mae disgwyl i gynrychiolwyr gefnogi gweithredu diwydiannol ar y cyd rhwng undebau, yn ogystal â phrotest fawr trwy Brydain fis Mawrth nesaf, lle gobeithir denu cannoedd o filoedd o bobl.

Dywed Bob Crow, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth, fod angen ymgyrch o anufudd-dod sifil er mwyn ymladd yn erbyn toriadau.

“Mae hyn yn gyfle i’r holl fudiad llafur ddod ynghyd a mobileiddio cefnogaeth,” meddai.

“Dylai undebau drefnu gweithredu ar y cyd â’i gilydd oherwydd rydyn ni’n wynebu’r un gelyn – fel arall fe fyddan nhw’n cael eu trechu fesul un.”

Awgryma hefyd y gallai pobl eistedd i lawr ar ffyrdd . er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i doriadau.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Brendan Barber, y byddai undebau’n estyn allan i’r gymuned ehangach er mwyn ffurfio “cynghrair flaengar” i ddadlau dros ddewis arall heblaw toriadau mewn gwario.

“Dw i ddim yn meddwl bod y cyhoedd yn sylweddoli graddau’r toriadau eto, ond unwaith y daw hynny i’r amlwg fe fydd yr adwaith yn wahanol iawn.

“Fe fyddan nhw’n chwilio am atebion gwahanol i’r strategaeth bresennol a fydd yn gwneud difrod economaidd a chymdeithasol anadferadwy.”

Taro’r tlawd

Yn ôl astudiaeth gan y TUC, fe fydd toriadau’r Llywodraeth yn taro’r bobl dlotaf 13 o weithiau’n galetach na phobl gyfoethog.

Mae’r astudiaeth yn dangos y bydd y 10% o bobl â’r enillion isaf yn dioddef toriadau mewn gwasanaethau a fydd yn gyfwerth â 20% o’u hincwm.

Ar y llaw arall, ni fydd y 10% cyfoethocaf ond yn colli’r hyn sy’n gyfwerth â 1.5% o’u hincwm o ganlyniad i’r toriadau sydd yn yr arfaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Mae gweinidogion y llywodraeth glymblaid yn dweud y bydd eu toriadau rhai blaengar, gan warchod y bobl fwyaf bregus ac na fyddan nhw’n cynyddu anghydraddoldeb,” meddai Brendan Barber.

“Mae ffigurau heddiw’n dangos bod y gwrthwyneb yn wir. Fe fydd y toriadau hyn yn gwneud i dreth y pen edrych fel un o syniadau Robin Hood.

“Bob dydd, fe ddaw’n fwyfwy amlwg fod ffyrdd eraill o dorri’r ddyled a bod y toriadau nid yn unig yn bygwth gwasanaethau ond hefyd yn peryglu adferiad economaidd.”

Llun: Brendan Barber, ysgrifennydd cyffredinol y TUC mewn cynhadledd i’r wasg ar drothwy’r gyngres flynyddol sy’n cychwyn ym Manceinion yfory (Anna Gowthorpe/Gwifren PA)