Fe fydd gwaith arloesol gweithwyr mewn ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael ei gofio mewn rhaglen arbennig yr wythnos yma.
Roedd y gweithwyr wedi torri record byd wrth gynhyrchu awyren Wellington Bomber o fewn llai na 24 awr – camp a oedd wedi cael ei ffilmio ar gyfer ffilm bropaganda ar y pryd.
Yn ddiweddar, mae rhai o’r gweithwyr rheini wedi bod yn ôl yn y ffatri lle buon nhw’n gweithio yn ystod y rhyfel ar gyfer rhaglen ddogfen a fydd yn cael ei dangos nos Fawrth.
“Roedd mynd â’r bobl yma’n ôl i’r ffatri’n brofiad emosiynol iawn,” meddai Peter Williams, cynhyrchydd y rhaglen a lwyddodd i olrhain rhai o’r gweithwyr sy’n dal yn fyw.
“Mae’r ffilm o’r cyfnod yn ddarlun o oes gwbl wahanol, lle’r oedd y merched yn gwneud swyddi dynion a oedd wedi mynd i ffwrdd i’r rhyfel. Roedden nhw’n gymaint rhan o ymdrechion y rhyfel ag oedd y lluoedd ymladd.”
Roedd ffatri yn America wedi llwyddo i adeiladu awyren fomio mewn 48 awr, ond llwyddodd gweithwyr Brychdyn i chwalu’r record wrth wneud awyren mewn 23 awr 48 munud. Roedden nhw wedi gweithio mor gyflym fel fod angen codi’r peilot o’i wely i hedfan lai na 24 ar ôl i’r gwaith ddechrau.
Diben y ffilm bropaganda oedd profi i’r Americanwyr nad oedd ysbryd Prydain wedi cael ei dorri gan y blitz.
Un o’r merched a weithiodd yn y ffatri oedd Betty Weaver o Rhosrobin, ger Wrecsam, a fydd yn cael ei chyfweld ar y rhaglen:
“Roedd fy nhad yn y Fyddin a’m gŵr yn y Fyddin, ac ro’n i’n teimlo fy mod i’n eu helpu mewn rhyw ffordd,” meddai.
Fe fydd y rhaglen ddogfen, Wellington Bomber, i’w gweld am 8 o’r gloch nos Fawrth ar BBC4.
Llun: Betty Weaver, a arferai weithio yn y ffatri yn ystod yr Ail Rhyfel Byd (BBC/Gwifren PA)