Mae profion post mortem wrthi’n cael eu cynnal ar gyrff tad a merch yn ei harddegau a fu farw wedi digwyddiad yn eu cartref yn swydd Essex.
Fe fu farw Margaret Pierides, 16 oed, ar ôl cael ei rhuthro mewn hofrennydd i ysbyty fore ddoe.
Roedd ei thad, Costas Pierides, 48 oed, eisoes wedi marw pan gafodd yr heddlu eu galw i gartref moethus y teulu ym mhentref Sible Hedingham.
Dyw heddlu Essex ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Llun: Plismon y tu allan i gartref y teulu ym mhentref Sible Hedingham, swydd Essex, lle cafodd y tad a’r ferch eu darganfod fore ddoe (Max Nash/Gwifren PA)