Fe gipiodd Wrecsam pwynt ar ôl i Efrog methu a manteisio ar eu cyfleoedd i ennill y gêm ar y Cae Ras heddiw.
Fe aeth tîm Dean Saunders ar y blaen wedi wyth munud gydag Andy Morrell yn sgorio o 12 llath.
Ond wedi ugain munud roedd Efrog wedi unioni’r sgôr gydag ymdrech Peter Till ar ymyl y cwrt cosbi mynd heibio i Scott Shearer yn y gôl.
Fe darodd Michael Gash y postyn i Rushden yn ystod yr ail hanner ac fe fethodd Michael Rankine i ennill y gêm iddynt gydag ymdrech o chwe llath.
Mae’r gêm gyfartal yn gadael Wrecsam yn y pymthegfed safle yn Uwch Gynghrair Blue Square.