Roedd gôl Craig Reed wedi hanner awr yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gasnewydd yn erbyn Rushden & Diamonds yn Nene Park.
Dyma chweched gôl o’r tymor i ymosodwr Casnewydd ar ôl canfod cefn y rhwyd tu fewn i’r cwrt cosbi gydag ymdrech dda.
Fe aeth Charlie Henry yn agos dwywaith i’r ymwelwyr ac fe gafodd Sam Foley gyfle da hefyd.
Doedd Rushden heb golli gartref ers mis Rhagfyr llynedd cyn i dîm Dean Holsdworth ddod a’r record yna i ben heddiw.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf oddi cartref y tymor i Gasnewydd ac maen nhw wedi codi i’r nawfed safle yn Uwch Gynghrair Blue Square.