Fe sgoriodd Leroy Cudjoe cais hwyr i dorri calonnau’r Crusaders wrth i Huddersfield sicrhau eu lle yn rownd nesaf y Super League.

Roedd y clwb Cymreig 10-6 ar y blaen gyda deg munud o’r gêm yn weddill ar ôl i Rhys Hanbury sgorio cais a Clinton Schifcofske lwyddo gyda thair cic.

Ond ar ôl i Jordan James gael ei anfon i’r gell cosb, fe fanteisiodd y tîm cartref ar eu dyn ychwanegol, gyda Larne Patrick yn sgorio cais i roi Huddersfield 12-10 ar y blaen.

Fe unionodd Schifcofske y sgôr gyda chic arall cyn i Cudjoe groesi o dan y pyst i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i Huddersfield.