Fe alwodd AS y Rhondda yn llwyddiannus ar i bwyllgor mwya’ pwerus Tŷ’r Cyffredin gynnal ymchwiliad i’r honiadau am y News of the World a Chyfarwyddwr Cyfathrebu’r Prif Weinidog.

Mewn dadl frys heddiw am yr helynt, fe ddywedodd y cyn weinidog Llafur, Chris Bryant, y dylai’r Pwyllgor ar Safonau a Braint fod yn ymchwilio.

Ddylai ASau ddim bod yn “ddiddim” yn wyneb yr honiadau bod y papur wedi clustfeinio ar eu negeseuon ffôn symudo, meddai – mae’n honni bod hynny wedi digwydd yn ei achos ef.

Fe fydd y Pwyllgor Safonau’n mynnu bod tystion yn dod o’i flaen ac fe fyddai hynny’n debyg o gynnwys Andy Coulson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu David Cameron a golygydd y papur ar y pryd.

Cyhuddiadau’r cyn-newyddiadurwyr

Erbyn hyn, mae nifer o gyn newyddiadurwyr y News of the World yn dweud bod Andy Coulson yn gwybod yn iawn am yr hyn oedd yn digwydd – er ei fod ef yn gwadu hynny’n llwyr.

Mae Heddlu Llundain hefyd wedi dweud eu bod yn awyddus i siarad gydag ef.

Yn ôl yr AS Llafur arall, Jack Dromey, fe ddylai Rhif 10 Downing Street fod yn barod i gydweithredu oherwydd mai gwers sgandal Watergate yn yr Unol Daleithiau oedd bod cuddio’n waeth na’r drosedd wreiddiol.

Clegg yn galw am ymchwiliad cyflym

Ynghynt yn y dydd, roedd y Dirprwy Brif Weinidog wedi galw ar i’r heddlu ymchwilio’n gyflym i’r honiadau.

Fe ddywedodd Nick Clegg wrth y rhaglen radio Today bod gan bobol hawl i holi cwestiynau gan fod cymaint o fersiynau gwahanol o’r hyn ddigwyddodd.
“Dw i’n credu mai’r peth pwysica’ oll yw bod yr heddlu’n awr, gan fod honiadau newydd wedi cael eu gwneud, yn ymchwilio mor gyflym ac mor drwyadl â phosib,” meddai.

Llun: Andy Coulson – ar y ffôn (Gwifren PA)