Fe gafodd milwr o Lanelli oedd allan ar batrôl yn Afghanistan ei ladd gan fath newydd o fom ymyl-ffordd.

Fe benderfynodd cwest heddiw bod yr Is-gorporal David Dennis, 29 oed, wedi marw ar 4 Gorffennaf llynedd ar ôl dioddef “anafiadau nad oedd modd yw trwyddyn nhw” yn dilyn y ffrwydrad yng ngogledd Lashkar Gah.

Fe glywodd Crwner Wiltshire a Swindon, bod gwrthryfelwyr yn Afghanistan newydd ddechrau defnyddio math gwahanol o ffrwydradau a oedd yn anodd iawn i’w ffeindio gyda datgelwyr metel y fyddin.

Bu farw milwr arall, Rob Laws, 18 oed o Gatrawd Mercia, ar yr un diwrnod ar ôl i wrthryfelwyr ymosod ar ei gerbyd.

Roedd David Dennis a Rob Laws yn cymryd rhan yn ymgyrch Panther’s Claw i wthio gwrthryfelwyr allan o’r ardal.

‘Anhrefn’

Roedd un o’r tystion, y Capten Owen Candy, o fewn cwpl o fetrau pan ffrwydrodd y ddyfais a laddodd David Dennis.

“Roedd yna ffrwydrad anferth ac fe aeth yr aer yn frown gyda’r dwst. O hynny ymlaen, fel gallwch ddychmygu, roedd yna anrhefn,” meddai Owen Candy.

Roedd yr ardal lle cafodd David Dennis ei ladd wedi cael ei harchwilio sawl gwaith y diwrnod hynny, ond doedd y ffrwydradau newydd ddim wedi cael eu ffeindio.

Llun: David  Dennis (MOD – Gwifren PA)