Fe fu tad o Gymru yn ail fyw’r profiad pan fu farw ei ferch 9 oed – er mwyn dangos bod cwmnïau rafftio yn Nhwrci yn dal i beryglu bywydau ymwelwyr.

Papur y Guardian a drefnodd fod Terry Potter o Lancarfan ym Mro Morgannwg yn mynd yn ôl i ardal Fethiye lle cafodd ei ferch, Cerys, ei lladd ym mis Gorffennaf eleni.

Roedd Richard Manning, 66 oed, o ardal Tudweiliog ym Mhen Llŷn hefyd wedi marw mewn damwain rafftio ar yr un rhan o’r afon ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae’r honiadau yn erbyn rhai o’r cwmnïau rafftio yn yr ardal yn cynnwys diffyg cyfarwyddiadau diogelwch, offer anaddas, gorlwytho rafftiau a derbyn plant llawer rhy ifanc ar y teithiau.

Rafft yn dymchwel

Yn ôl adroddiad y papur newydd, roedd Terry Potter wedi mynd ar yr un math o daith â’i ferch a gweld nad oedd trefniadau diogelwch wedi gwella, heb fawr o gyngor beth i’w wneud os oedd rafft yn dymchwel.

Fe ddigwyddodd hynny iddo yntau, meddai’r Guardian, ac fe fu o dan y dŵr am ychydig cyn cael ei dynnu’n glir.

Roedd Cerys Potter wedi marw pan ddymchwelodd ei rafft hithau ac fe fu cefnder iddi yn yr ysbyty am dridiau ar ôl y digwyddiad.

Mae’r papur yn ymgyrchu i gael gwell rheolau diogelwch i’r diwydiant yn Nhwrci – roedd arbenigwr rafftio dŵr gwyllt wedi dweud wrth y Guardian bold rhai o’r pethau a welodd yn digwydd ar yr afon yn “esgeulustod difrifol”.

Llun: Y stori ar wefan y Guardian