Fe fydd penaethiaid S4C yn gofyn i’r Ysgrifennydd Diwylliant drin y sianel yr un peth â’r BBC gan roi tua dwy flynedd o ras iddi cyn wynebu toriadau caled.

Mae Cadeirydd a Phrif Weithredwr S4C yn Llundain heddiw am eu cyfarfod cynta’ gyda Jeremy Hunt, ers dechrau’r trafod ar wario ac ers y diswyddo sydyn ar Brif Weithredwr y sianel.

Mae Golwg360 yn deall mai’r amseru fydd un o brif ddadleuon John Walter Jones ac Arwel Ellis Owen – fe fyddan nhw’n dweud bod torri gwario’n ddisymwth yn anodd iawn i sianel deledu sy’n comisiynu rhaglenni fisoedd a blynyddoedd ymlaen llaw.

Fydd dim newid yng nghyllideb y BBC nes ail edrych ar y drwydded ymhen dwy flynedd – gan mai S4C yw’r unig ddarlledwr cyhoeddus arall mewn sefyllfa debyg, fe fydd penaethiaid y sianel yn gofyn am yr un chwarae teg.

Fe fyddan nhw hefyd yn pwysleisio cyfraniad economaidd a diwylliannol S4C – fe fydd drafft cynta’ o adroddiad am effaith economaidd y sianel ar gael cyn i ymgynghori’r Llywodraeth ddod i ben ymhen wythnos.

Protest gan Gymdeithas yr Iaith

Fe fydd tuag 20 o aelodau Cymdeithas yr iaith hefyd yn cynnal protest y tu allan i’r Adran Dreftadaeth ac wedyn y tu allan i Dŷ’r Cyffredin.

Maen nhw’n bwriadu defnyddio uchelseinydd i weiddi negeseuon y tu allan i’r adran, ond fe allen nhw wynebu problemau gyda’r heddlu oherwydd y rheolau llym am gynnal protestiadau yn ardal y Senedd a Whitehall.

Llun: Y Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt (Jdfirth – CCA3.0)