Sêr Dewi 3 Maesglas 1
Llwyddodd Sêr Dewi i sicrhau eu tri phwynt cyntaf y tymor yma mewn gêm ymfflamychol ar adegau yn erbyn yr ymwelwyr o Aberteifi.
Cyn diwedd y 90 munud rodd yna dri cherdyn coch – dau i’r ymwelwyr ac un i’r tîm cartref.
Maesglas a gafodd y gorau o’r cyfnod agoriadol gan haeddu mynd ar y blaen pan fanteisiodd Rhys Pritchard ar gamgymeriad yn amddiffyn y tîm cartref.
Gyda phresenoldeb Huw Meredith a Dai Cole yn amlwg i Faesglas, fe orfodwyd y Sêr i amddiffyn yn ddygn i gadw’r sgôr i un erbyn yr egwyl.
Ail hanner – stori wahanol
Ond stori gwbl wahanol oedd hi ar ôl y toriad ac Emyr Davies yng ngôl Maesglas oedd brysuraf.
Daeth y tîm cartref yn gyfartal ar yr awr pan beniodd y capten Peter Bradley yn nerthol i gefn y rhwyd o gic gornel William Williams,
Ddeg munud yn ddiweddarach aeth y Sêr ar y blaen o gic rydd wych gan Arwel Jones o bum llath ar hugain.
Gweld coch
O hynny ymlaen fe ffrwydrodd y gêm ar fwy nag un achlysur a doedd gan y dyfarnwr ddim dewis ond dangos y 3 cherdyn coch.
Gyda 10 munud yn weddill sgoriodd Sêr Dewi gôl wefreiddiol arall pan redodd Dean Coleman yr holl ffordd o hanner ei hunan gan guro dyn ar ôl dyn cyn mynd o amgylch Emyr Davies yn y gôl i sgorio ymdrech unigol wych a selio’r 3 phwynt.