Mae’r Gweinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson, wedi cyhoeddi enw cadeirydd newydd Comisiwn Newid Hinsawd Cymru.

Y nod, meddai, yw cael barn annibynnol a fydd yn gallu denu cefnogaeth eang i bolisïau i fynd i’r afael â’r broblem.

Peter Davies fydd cadeirydd annibynnol cyntaf y Comisiwn, ar ôl i’r Gweinidog Amgylchedd ei hun fod yn y gadair ers sefydlu’r Comisiwn yn 2007 gan Lywodraeth y Cynulliad.

‘Annibynnol’

Fe fydd Peter Davies yn cymryd awenau’r Comisiwn ym mis Hydref, wedi i’w swydd bresennol yn cadeirio Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru ddod i ben.

Cyhoeddodd Jane Davidson yn gynharach eleni y dylai cadeirydd annibynnol gael ei benodi.

“Mae angen cadeirydd annibynnol ar y Comisiwn er mwyn sicrhau ei ddatblygiad, a chryfhau ei safle’n gorff ymgynghori annibynnol,” meddai’r Gweinidog. “Corff sydd â’r gallu i greu consensws rhwng y pleidiau ynglŷn â sut i daclo newid hinsawdd.”

Peter Davies – y cefndir

Mae gan Peter Davies brofiad ym myd busnes, wedi gweithio i gorff y diwydianwyr y CBI, i ‘r Adran Masnach a Diwydiant, a bod yn Gyfarwyddwr Reolwr ar Business in the Communty UK rhwng 1995 a 2005.

Fe dderbyniodd yr OBE yn 1995 am ei waith yn creu cysylltiadau rhwng busnes ac addysg, ac fe gafodd ei benodi’n Gomisiynydd i Gymru ac yn Is-Gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy y Deyrnas Unedig yn 2005.

Llun: Peter Davies