Mae gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd yn parhau er mai Surrey sy’n rheoli gêm ddiweddaraf y Dreigiau.

Mae angen i dîm Matthew Maynard sicrhau 25 pwynt o ddwy gêm ola’r tymor i sicrhau dyrchafiad ac roedden nhw fwy na 300 ar ei hôl hi yn y batiad cynta’ erbyn diwedd yr ail ddiwrnod o bedwar yn yr Oval.

Fe fydd llawer yn dibynnu hefyd ar yr hyn y mae eu prif gystadleuwyr yn ei wneud ac ar hyn o bryd dyw Gloucestershire na Worcestershire ddim yn gwneud yn arbennig o dda yn eu gemau nhw.

Fe sgoriodd Surrey 380 o rediadau yn eu batiad cyntaf ac mae Morgannwg wedi cyrraedd 72-2 wrth i’r glaw gyfyngu ar y chwarae.

Am orfod dewis

Yn nes ymlaen, efallai y bydd raid i Forgannwg ddewis rhwng mentro mynd am fuddugoliaeth – gyda’r peryg o golli – neu setlo am gêm gyfartal.

Ddechrau dydd Iau, dyna oedd yr opsiwn mwyaf tebygol wrth i Swydd Caerloyw a Swydd Gaerwrangon gael trafferthion hefyd.

• Mae Swydd Caerlŷr – Leicestershire – yn rheoli yn erbyn Caerloyw ar ôl sgorio 282 o rediadau yn eu batiad cyntaf a bowlio Caerloyw am 159. Fe aeth Caerlŷr ymlaen i gyrraedd 147-1 yn eu hail fatiad cyn i’r chwarae ddod i ben ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.

• Roedd Caerwrangon wedi sgorio’n addawol yn eu batiad cyntaf yn erbyn Middlesex yn The Oval gyda 313 o rediadau. Ond mae’r tîm cartref wedi dechrau eu batiad hwy’n gadarn gyda sgôr o 244-5.

Fe allai methiant Caerloyw a Chaerwrangon i ennill eu gemau olygu bod Morgannwg yn parhau yn yr ail safle gyda’r ras am ddyrchafiad yn dibynnu ar gêm ola’r tymor.

Llun: Yr Oval