Mae rhai o chwaraewyr presennol Cymru wedi beirniadu’r penderfyniad i ddefnyddio Gavin Henson i fodelu crysau newydd y tîm rhyngwladol.

Llun can troedfedd o’r canolwr segur a ddefnyddiwyd i dynnu sylw at y crys, er nad yw wedi chwarae rygbi ers tua deunaw mis.

Ac mae’r dirgelwch am ei ddyfodol yn parhau – er bod hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn dweud ei fod yn awyddus i groesawu Henson yn ôl i’r garfan, does dim sicrwydd ei fod am ail afael yn y gamp.

Barn Jamie Roberts

Fe wnaeth Jamie Roberts ymateb i’r newyddion trwy osod neges ar ei gyfrif Twitter.

“Ydi hyn yn sarhad i chwaraewyr rhyngwladol presennol Cymru …beth mae cyhoedd Cymru yn ei feddwl am hyn?!” meddai ei gyd ganolwr, Jamie Roberts.

Fe ddywedodd Jamie Roberts yn lansiad swyddogol y crysau newydd fod y penderfyniad yn un “diddorol”.

“Beth bynnag fydd Gavin yn ei benderfynu am ei yrfa, dyw rygbi Cymru ddim i gyd amdano ef. Mae am dîm gydag unigolion yn gweithio’n galed o fewn y tîm hynny.”

Barn Shane Williams

Fe ddywedodd cyn chwaraewr gorau’r byd, Shane Williams, bod defnyddio Henson i fodelu’r crys wedi synnu’r chwaraewyr presennol.

“Mae bach yn od gan gofio bod Gavin yn brysur gyda phethau arall ar hyn o bryd,” meddai Williams.

Roedd Henson wedi dweud yn gynharach yn yr wythnos ei fod am chwarae i Gymru yng Nghwpan y Byd blwyddyn nesaf.

Ond fe gafodd ei gyhoeddi ddoe y bydd y Cymro yn cymryd rhan yng nghyfres cystadleuaeth dawnsio Strictly Come Dancing eleni.