Mae disgwyl y bydd John Toshack yn rhoi’r gorau i swydd hyfforddwr Cymru heddiw wedi chwe blynedd wrth y llyw.

Fe fu Toshack yn cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn gynharach yn yr wythnos ac mae cynhadledd i’r wasg wedi ei galw ar gyfer canol dydd.

Fe fydd Toshack yn ymddangos o flaen y cyfryngau gyda Llywydd y Gymdeithas, Phil Pritchard a’r Prif Weithredwr Jonathan Ford.

Yr hyn sy’n aneglur ar hyn o bryd yw pryd fydd Toshack yn gadael y swydd – ar unwaith neu ar ôl y gemau rhagbrofol nesaf yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir, er i’r Gymdeithas gael amser i ganfod olynydd.

Flynn tros dro?

Mae yna ddyfalu mae hyfforddwr y tîm dan 21, Brian Flynn fydd yn olynu Toshack dros dro, ac mae’n un o’r ffefrynnau i lanw’r rôl yn barhaol yn dilyn gwaith ardderchog gyda chwaraewyr ifanc.

Fe ddechreuodd y sïon am ddyfodol Toshack ar ôl i Gymru golli 1-0 yn erbyn Montenegro yr wythnos ddiwethaf, gyda chyn chwaraewyr rhyngwladol fel Iwan Roberts yn dweud bod eisiau iddo fynd.

Mae cyn reolwr Real Madrid wedi bod yn hyfforddwr y tîm rhyngwladol ers mis Tachwedd 2004 ond mae’n teimlo ei fod wedi mynd â’r tîm cyn belled ag y gall.