Mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi datgelu y bydd yn dod ag achos i gael archwiliad barnwrol i helynt y News of the World a chlustfeinio ar ffonau symudol.

Fe ddywedodd Chris Bryant, y cyn weinidog Llafur, ei fod wedi rhoi cyfarwyddiadau i gyfreithwyr a’i fod yn gobeithio dechrau ar gamre cyfreithiol yr wythnos nesa’.

Mae’n credu nad yw Heddlu Llundain wedi ymchwilio’n iawn i honiadau bod y News of the World wedi bod yn hacio i mewn i negeseuon ar ei ffôn symudol ef a gwleidyddion a phobol amlwg eraill.

Ef sy’n gyfrifol am gael dadl ar y pwnc yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ond fe ddywedodd wrth Radio Wales y bore yma fod y gweithredu cyfreithiol ar droed hefyd.

Eisiau ymchwiliad

Mae’n galw am ymchwiliad llawn gan yr heddlu ac am ymchwiliad seneddol pellach i geisio deall pam nad oedd yr heddlu wedi ymchwilio’n iawn yn y lle cynta’.

Yn ôl Chris Bryant, dim ond ar ôl iddo ef ofyn y dywedodd yr heddlu wrtho bod tystiolaeth o ymyrryd â’i negeseuon ffôn ef yn ôl yn 2003 pan gafodd lawer o gyhoeddusrwydd am fod yn hoyw.

Mae Heddlu Llundain wedi dweud y byddan nhw’n fodlon ailagor eu hymchwiliad os bydd tystiolaeth newydd.

Mae’r achos wedi magu pwysigrwydd gwleidyddol ychwanegol oherwydd mai Cyfarwyddwr Cyfathrebu’r Prif Weinidog, David Cameron, oedd golygydd y papur newydd ar y pryd.

Llun: Chris Bryant