Mae cwmnïau a fu’n gweithio gyda BP ar lwyfan olew Deepwater Horizon yng Nghwlff Mecsico wedi beirniadu adroddiad y cwmni olew am y trychineb.
Fe ddywedodd cwmni Transocean bod yr ymchwiliad wedi ceisio cuddio ffactor pwysig iawn wnaeth arwain at y trychineb, sef y “nam yng nghynllun BP”.
Fe ddywedodd cwmni Halliburton bod yna wallau a gwybodaeth wedi cael ei hepgor o adroddiad BP, a oedd yn rhoi peth o’r bai ar y cwmni olew ei hun ond hefyd yn beirniadu
perchnogion y llwyfan, Transocean, a’r peirianwyr Halliburton.
“Yn y cynllunio a’r adeiladu, fe wnaeth BP cyfres o benderfyniadau i dorri costau a oedd wedi cynyddu’r risg,” meddai Transocean mewn datganiad.
‘Methiannau’
Mae’r adroddiad yn nodi bod yna gyfres o fethiannau gan wahanol bobol wedi arwain at y trychineb, sydd wedi arwain at filiau iawndal gwerth biliynau o ddoleri yn erbyn BP.
Ond fe allai derbyn cyfrifoldeb llawn am yr hyn ddigwyddodd arwain at gosb bellach – o’r dechrau, roedd BP wedi dadlau bod eraill ar fai hefyd ac roedd disgwyl y byddai’r adroddiad yn ail-ddweud hynny.
Bu farw 11 o bobl yn y ffrwydrad ar 20 Ebrill gyda thua 4.9 miliwn casgen o olew yn llifo i mewn i’r Gwlff.
Ffrwydrad y llwyfan olew (AP Photo)