Fe allai Fitamin B helpu i leihau’r peryg o ddryswch ac Alzheimer’s ymhlith pobol oedrannus, meddai ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil yn dangos bod y fitamin yn helpu’r rhai hynny sy’n dioddef o niwed gwybyddol ysgafn (MCI) sy’n dod cyn Alzheimer’s a mathau eraill o ddryswch.
Mae ymennydd pobol sy’n diodde’ o MCI yn crebachu’n gynt na phobol eraill ac yn gallu arwain at Alzheimer’s ond, yn ôl yr ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Rhydychen, mae’r fitamin yn gallu arafu’r broses honno.
Yr ymchwil
Yn ôl yr ymchwil, mae cymryd y fitamin yn gallu haneru’r peryg – roedden nhw wedi cynnal arbrawf gyda 168 o wirfoddolwyr dros 70 oed.
Roedd y cyfan yn dioddef o niwed gwybyddol ysgafn a, thros gyfnod o ddwy flynedd, fe gafodd eu hanner nhw ddosys o Fitamin B, gyda’r gweddill yn cael placebo.
Ar gyfartaledd roedd cymryd Fitamin B bob dydd yn arafu crebachu’r ymennydd o 30% gyda rhai mor uchel â 53%.
“Maen nhw’n ganlyniadau dramatig ac yn fwy na’r disgwyl,” meddai’r Athro David Smith o Brifysgol Rhydychen a oedd yn un o arweinwyr yr ymchwil.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd y driniaeth syml a diogel yma’n arafu datblygiad afiechyd Alzheimer’s i nifer o bobol sy’n dioddef gyda phroblemau gyda’r cof.”
Ymateb Cymdeithas Alzheimer’s
“Mae’n ymchwil diddorol a allai newid bywydau miloedd o bobol sydd mewn peryg o gael demensia. Ond mae astudiaethau cynt ar Fitamin B wedi bod yn siomedig iawn a d’yn ni ddim am godi gobeithio unrhyw un eto.
“Mae’r ymchwil gan Brifysgol Rhydychen wedi mesur cyfradd crebachu’r ymennydd yn y rhai hynny gyda lefelau uchel o asid amino homocysteine, sy’n ffactor yn natblygiad Alzheimer’s. Ond dyw’r astudiaeth ddim yn dangos unrhyw les i bobol gyda lefelau arferol”
“Mae angen mwy o ymchwil i ddangos sut y gallai triniaeth Fitamin B atal neu arafu demensia.
“Ond r’yn ni’n gwybod mai’r ffordd orau i leihau’r risg o ddementia yw sicrhau eich bod yn bwyta’n iach gyda diet ffrwythau a llysiau.”
Llun: Claf a gofalwr (Y Gymdeithas Alzheimer)